Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2022

 

Pwynt Craffu ar Rinweddau 1: Polisi Llywodraeth Cymru oedd sicrhau cysondeb cyffredinol â’r sefyllfa bolisi a fabwysiadwyd gan Lywodraeth y DU, er mwyn sicrhau mynediad cyfartal at ofal iechyd i ffoaduriaid o Wcráin yn y ddwy wlad. O ganlyniad, roedd angen gweld rheoliadau drafft Llywodraeth y DU cyn bwrw ymlaen â’n rhai ni. Yn dilyn ein hadolygiad o reoliadau drafft Llywodraeth y DU, roedd swyddogion Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa well wedyn i lunio set o reoliadau a oedd yn cyflawni’r amcan polisi, yn ddarostyngedig i rai mân wahaniaethau a oedd yn ofynnol er mwyn sicrhau cysondeb â’r dirwedd gyfreithiol bresennol ar gyfer ffioedd gofal iechyd yng Nghymru.

Dylid nodi hefyd, er bod ein rheoliadau ni wedi eu gweithredu ychydig yn hwyrach nag yn Lloegr, eu bod yn gymwys o’r un dyddiad, hynny yw, o ddechrau’r gwrthdaro (24 Chwefror 2022). Felly, byddai unrhyw berson a gyrhaeddodd y DU yn gyfreithlon o Wcráin yn ystod y cyfnod hwnnw yn dal i fod yn esempt rhag ffioedd ac felly ni fyddent o dan anfantais o gymharu â’r sefyllfa yn Lloegr.